|
Article on other languages:
|
Erthygl fer iawn yw eginyn, sydd fel arfer yn cynnwys un paragraff yn unig. Mae awdur eginyn yn ei greu er mwyn ysgogi pobl sydd â diddordeb yn y pwnc, neu sydd â llawer o wybodaeth amdano, i ychwanegu at yr erthygl. Os byddwch chi'n creu eginyn, cofiwch ychwanegu {{eginyn}} at ddiwedd y darn, ac fe welwch y testun:
ar y diwedd, sy'n dangos i'r byd mai eginyn yw'r erthygl. I weld pa erthyglau sydd angen eu hehangu, gwyliwch y rhestr hon. Wrth i'r Wicipedia dyfu rydym yn creu categorïau egin mwy penodol; mae gennym ni gategori ar gyfer eginau am hanes Cymru er enghraifft. I ychwanegu erthygl at y categori eginyn hwnnw, rhowch y nodyn {{eginyn hanes Cymru}} ar ddiwedd yr erthygl. Mae'r nodiadau eginyn hyn ar gael yn barod am nifer o wledydd, e.e. {{eginyn Montenegro}} a sawl pwnc a maes, e.e. {{eginyn athroniaeth}} ac {{eginyn cerddoriaeth}}. Cewch weld rhestr lawn o'r nodiadau egin ychwanegol hyn yma. Ond peidiwch â phoeni'n ormodol os nad ydych yn siwr pa nodyn i'w ddefnyddio. Bydd rhywun un siwr o sylwi ar yr erthygl newydd a'i roi yn y categori egin iawn. Y peth pwysig ydy creu yr erthygl yn y lle cyntaf: Ewch ati felly! |
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.